Wavehill Report.
Adroddiad Wavehill – Gwerthusiad Terfynol mis Mai 2012.
Gwerthusiad yn canu clodydd prosiect Cyflogaeth a Hyfforddiant â Chymorth y Cyreniaid (CSET).
Mae gwerthusiad annibynnol a gynhaliwyd gan Wavehill Ltd. wedi galw CSET yn ‘brosiect canmoladwy’ sydd o fudd economaidd a chymdeithasol sylweddol i Gymru. Mae’r cynllun, a ariennir gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, wedi gweithio gyda dros 5,000 o bobl ddifreintiedig o ardal Bae Abertawe, gan gefnogi mwy nag 850 i gael cyflogaeth, gyda chymorth i aros mewn gwaith.
Mae’r prosiect wedi’i deilwra i bobl sydd wedi ymddieithrio o wasanaethau prif ffrwd, gan gynnwys y rhai hynny sydd wedi dioddef digartrefedd neu arwahanrwydd cymdeithasol. Mae’n cynnig rhwydwaith integredig o wasanaethau sy’n:
- Helpu pobl i oresgyn rhwystrau.
- Darparu ystod eang o hyfforddiant achrededig.
- Helpu pobl i ddod o hyd i waith ac aros ynddo.
Y budd economaidd i Gymru - £1.44 am bob £1 a wariwyd.
Cynhaliodd y gwerthuswyr ddadansoddiad cost a budd trylwyr o’r prosiect sy’n werth £5.9 miliwn, gan gyfrifo mai’r elw o’r buddsoddiad i Gymru oedd £1.44 am bob £1 a wariwyd, ac ychwanegu bod hyn yn debygol o fod yn ‘amcangyfrif ceidwadol’.
‘Model Arfer Da’
Daeth y gwerthusiad i’r casgliad bod CSET yn
‘fodel arfer da a allai gael ei ymestyn ledled Cymru o bosibl’.
Mae’r Cyreniaid wedi ymuno â Caer Las Cymru, Cymorth Cymru, Cymdeithas Dai Cadwyn a Shelter Cymru i ffurfio’r Consortiwm Mannau o Newid. Mae’r Consortiwm yn bwriadu datblygu’r model ar draws Cymru, mewn ardaloedd lle y ceir angen mawr, o dan raglen cronfeydd strwythurol 2014-20.
Cliciwch yma i ddarllen yr adroddiad gwerthuso llawn gan Wavehill Ltd. (Fformat PDF 1.1Mb).
Adroddiad Wavehill – Gwerthusiad Cyfnod Canol Ionawr 2011.
Mae gwerthusiad cyfnod canol annibynnol o’r prosiect unigryw hwn, a ariennir gan Sefydliad Cyllid Ewropeaidd Cymru ac sy’n ceisio helpu rhai o’r bobl sydd wedi’u hymyleiddio fwyaf ym Mae Abertawe i gymryd rhan mewn hyfforddiant a chael gwaith, wedi cael ei gynnal yn ddiweddar gan Wavehill Ltd. Gwnaethant ganfod y canlynol:
‘Y cymysgedd o sgiliau bywyd, gyda phrofiad gwaith ac yna asiantaeth gyflogaeth benodol yw’r pecyn ar gyfer yr unigolyn cyfan sy’n gwneud model y Cyreniaid yn llwyddiant, ac ymhen amser fe allai brofi i fod yn fodel arfer da ar gyfer elusennau tebyg ledled Cymru a’r Deyrnas Unedig’
Cliciwch yma i ddarllen yr adroddiad cyfan (Fformat PDF 1.5Mb).