Cyrsiau Cyflogaeth a Hyfforddiant y Cyreniaid Ltd
Mae Cyflogaeth a Hyfforddiant Ltd (CET) y Cyreniaid yn cynnig rhaglen helaeth o hyfforddiant a dysgu cymunedol.
Mae’r cyrsiau’n dechrau ar ddyddiadau rheolaidd drwy gydol y flwyddyn. Cysylltwch â ni am ragor o fanylion.
Mae ein canolfannau’n cynnig croeso cynnes ac awyrgylch cefnogol ac anffurfiol i bobl sydd eisiau dysgu sgiliau newydd a gwella eu siawns o gael swydd a’i chadw.
Rydym ni’n cynnal gweithdai mewn celf, crefft, iaith, TGCh, iechyd a diogelwch, cymorth cyntaf a diogelwch bwyd, yn ogystal ag amrywiaeth o weithgareddau lles. Gobeithiwn felly fod CET yn cynnig rhywbeth i bawb.
Beth bynnag yw’ch nodau ar gyfer y flwyddyn i ddod, gobeithio y gallwn ni helpu.
Sylwer: Gallai’r cyrsiau newid ac maen nhw’n dibynnu ar niferoedd.
Celf a Chrefft
- Gweithdai cerameg
- Gweithdai cerddoriaeth
- Sesiynau ffotograffiaeth
- Gweithdai Ffotograffiaeth Dylan Thomas (ar y cyd â Chanolfan Dylan Thomas).
Hyfforddiant Achrededig
- Cymorth Cyntaf
- Diogelwch Bwyd
- Iechyd a DiogelwchI