Canolfan Celfyddydau a Dysgu’r Ddraig
Mae Canolfan Celfyddydau a Dysgu’r Ddraig yn darparu dosbarthiadau celf, crefft, cerddoriaeth a ffotograffiaeth yn ein canolfan gymunedol gydweithredol yn yr Hafod, Abertawe. Mae’r aelodau hefyd yn gallu cael mynediad am ddim i rai arddangosfeydd, ymweliadau a gwibdeithiau. Darperir yr holl weithgareddau mewn awyrgylch hamddenol a chynhwysol.
Mae’r ganolfan ar agor rhwng 10am a 2pm, o ddydd Llun i ddydd Iau, ac mae ar gau ar ddydd Gwener ar hyn o bryd. Anogir yr aelodau i gymryd cyfrifoldeb am y ganolfan, gan fanteisio ar weithdai a gweithgareddau fel ‘cydweithfa gymdeithasol’. Rydym ni’n ymfalchïo mewn cynnig dosbarthiadau arloesol a chroesawu pobl o bob cefndir.
Ymwelwch â’r dudalen hon yn aml gan ein bod ni’n cynnal llawer o weithdai a sesiynau ‘blasu’ drwy gydol y flwyddyn.
Gweithgareddau sydd ar ddod.
- Dosbarthiadau lluniadu bywyd llonydd
- Gweithdai Ffotograffiaeth Dylan Thomas
Amserlen Newydd Celfyddydau’r Ddraig!
Ffoniwch 01792 467940 i ofyn am gopi neu anfonwch neges e-bost at info@dragonarts.co.uk
Gallwch hoffi ein tudalen ar Facebook hefyd! Gallwn gynnig dosbarthiadau i bobl yn rhad ac am ddim mewn rhai amgylchiadau. Dewch i ymuno â ni!